TRENDING NEWS
Back to news
11 Jul, 2025
Share:
Canlyniadau cadarnhaol yn sgil y ddeddf isafbris alcohol
@Source: 360.cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad yn ystyried effaith eu polisi o osod isafbris uned o 50c ar alcohol, a gafodd ei gymeradwyo gan y Senedd yn wreiddiol yn 2018. Daeth Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a’r rheoliadau i rym ar 2 Mawrth 2020, yn union cyn dechrau’r pandemig. Bwriad y ddeddf oedd mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol alcohol trwy leihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed, yn enwedig ymhlith y rheiny sy’n tueddu i yfed mwy o ddiodydd rhad gyda chyfran uchel o alcohol. Mae yfed gormodedd o alcohol yn cynyddu’r risg o gael canser, strôc, clefyd y galon, clefyd yr iau a niwed i’r ymennydd. Yn unol â thelerau Deddf 2018, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu adroddiad am ei heffaith a sut y caiff y ddeddfwriaeth ei rhoi ar waith. Fe ganfu’r adroddiad hwnnw, gafodd ei gyhoeddi ddiwedd mis Mehefin, fod y Ddeddf wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, er bod rhai cyfyngiadau a heriau yn parhau. ‘Cadarnhaol ar y cyfan’ Mae’r adroddiad yn archwilio’r dystiolaeth gan weithwyr iechyd, y sector manwerthu a’r trydydd sector am effaith yr isafbris uned dros gyfnod o bum mlynedd rhwng mis Mawrth 2020 a diwedd mis Chwefror 2025. Er bod y cyfnod hwnnw’n cynnwys y pandemig, a fyddai o bosib wedi effeithio ar ymddygiad pobl sy’n yfed, mae’r dystiolaeth yn awgrymu darlun “cadarnhaol ar y cyfan” o’r polisi isafbris am alcohol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall effeithiolrwydd polisi isafbris uned gael ei ddylanwadu gan y pris sydd wedi’i bennu fel isafbris. ‘Parhau i gefnogi ein gwaith’ Mae Gweinidogion Cymru yn dweud eu bod wedi adolygu’r holl dystiolaeth gafodd ei chyflwyno yn yr adroddiad, ac maent o’r farn bod y dystiolaeth yn awgrymu bod isafbris am alcohol wedi cyfrannu at amcanion arfaethedig eu polisi. Dywed llefarydd ar ran y Llywodraeth y bydd angen i unrhyw ystyriaethau am ddyfodol y polisi, gan gynnwys a ddylai barhau, ystyried pennu lefel yr isafbris uned eto. Mae’r Llywodraeth wedi comisiynu’r Sheffield Addictions Research Group ym Mhrifysgol Sheffield i archwilio sut i bennu’r isafbris priodol. “Mae isafbris am alcohol yn un o ystod eang o bolisïau iechyd sydd wedi’u mabwysiadu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella canlyniadau iechyd,” ychwanega’r llefarydd. “Nid yw’r polisi yn gweithredu mewn gwagle, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gwaith ehangach yn y maes camddefnyddio sylweddau, gan ganolbwyntio ar atal, cefnogi ac adfer, a mynd i’r afael ag argaeledd.”
For advertisement: 510-931-9107
Copyright © 2025 Usfijitimes. All Rights Reserved.