TRENDING NEWS
Back to news
10 Mar, 2025
Share:
'Digwyddiad difrifol' yn Rhondda Cynon Taf
@Source: bbc.com
Mae gwasanaethau brys yn ymateb i "ddigwyddiad difrifol" yn Rhondda Cynon Taf, meddai'r heddlu. Yn ardal Green Park o Tonysguboriau mae'r digwyddiad, ac mae Heddlu'r De wedi gofyn i aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal. Mae trigolion lleol wedi dweud bod ymateb "sylweddol" wedi bod i'r digwyddiad gan y gwasanaethau brys. Roedd nifer o geir heddlu yn teithio'n gyflym am yr ardal, gyda'r golau glas ymlaen. Cyrhaeddodd hofrennydd heddlu dros Tonysguboriau am 6:30pm nos Sul ac yna mynd o amgylch yr ardal, cyn dychwelyd yn ddiweddarach i'w ganolfan yn St Athan. Dywedodd yr heddlu y bydd mwy o fanylion yn dilyn.
For advertisement: 510-931-9107
Copyright © 2025 Usfijitimes. All Rights Reserved.